Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 24 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:15 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Elspeth Weir, Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban Malcolm Clubb, Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban Alex MacKinnon, Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Nid oedd dim dirprwyon.
2. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol yr Alban
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd.
2.2 Cytunodd tystion o Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban ddarparu:
· copi o adroddiad gan Lywodraeth yr Alban ar ei adolygiad o wasanaeth iechyd cyhoeddus y fferyllfeydd cymunedol ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu a dulliau brys o atal cenhedlu hormonaidd;
· linc i adroddiad gan Brifysgol Manceinion ar y newid mewn dulliau ymgynghori â chleifion mewn gofal sylfaenol a oedd yn archwilio i nifer y bobl yn yr Alban a ddefnyddiodd y Gwasanaeth Mân Anafiadau yn yr Alban.
3. Deiseb ar y Ddarpariaeth o Doiledau Cyhoeddus yng Nghymru – Ystyried dull y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cyndeithasol o weithredu
3.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar ei ddull o weithredu mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y dylai ei waith ganolbwyntio ar y diffyg darpariaeth toiledau cyhoeddus ac effaith hyn ar iechyd y cyhoedd, ac y dylai’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 23 Rhagfyr 2011.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu sefydliadau ychwanegol at y rhestr ymgynghori arfaethedig.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd.
4.1 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru
4.2 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6
5.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6.
6. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafodaeth breifat am y materion sy'n codi
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y materion sy’n codi o’i ymchwyliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymuneol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.